Mick Antoniw AS
 Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
12 Mai 2022

Annwyl Mick,

Gwahoddiad i roi tystiolaeth - 20 Mehefin 2022

Byddwch yn cofio y cawsom drafodaeth addysgiadol iawn fis Medi diwethaf a roddodd gyfle cynnar i glywed gennych ynghylch materion o fewn eich portffolio ac i helpu i osod y cyd-destun wrth i fy Mhwyllgor ddechrau ar ei waith yn y Chweched Senedd hon.

Wrth i flwyddyn lawn gyntaf y Chweched Senedd ddod i ben, hoffem eich gwahodd i ddod i'n cyfarfod ar 20 Mehefin, rhwng 13.00 a 14.30, fel y gallwn drafod datblygiadau a materion allweddol o fewn eich maes cyfrifoldeb ers i ni gyfarfod ddiwethaf. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ystâd y Senedd, a byddwn yn cadarnhau lleoliad yr ystafell.

Byddwn yn ddiolchgar pe gallech gadarnhau a fyddwch yn gallu dod i’r cyfarfod, a hynny cyn gynted ag y bo modd.  Bydd y sesiwn hon yn helpu i lywio adroddiad blynyddol, yr ydym yn bwriadu ei osod gerbron y Senedd yn gynnar yn ystod toriad yr haf.

Yn ogystâl, byddwch yn gwybod, yr wythnos hon yn Senedd y DU cafodd rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU ar gyfer y sesiwn sydd ar ddod ei chyhoeddi yn Araith y Frenhines. Yn dilyn eich llythyr a anfonwyd atom ar 1 Mawrth 2022, byddem yn ddiolchgar pe gallech ddarparu eich asesiad cychwynnol o'r Biliau sydd wedi'u cynnwys yn y cyhoeddiad a fydd, yn eich barn chi, yn ei gwneud yn ofynnol i femoranda cydsyniad deddfwriaethol gael eu gosod gerbron y Senedd. At hynny, byddai'n ddefnyddiol pe gallech, fel rhan o'r asesiad hwnnw, gadarnhau pa Filiau y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio, neu y gallai geisio, darpariaeth yn eu cylch ar gyfer Cymru mewn meysydd datganoledig. Byddem yn falch iawn pe baech yn anfon y wybodaeth hon erbyn 25 Mai fel y gellir ei defnyddio i lywio ein gwaith cynllunio.

 

 

Yn gywir

Huw Irranca-Davies
Cadeirydd